2014 Rhif 41 (Cy. 3)

landlord a thenant, CYMRU

Gorchymyn Daliadau Amaethyddol (Unedau Cynhyrchu) (Cymru) 2014

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)

Mae'r Gorchymyn hwn yn rhagnodi unedau cynhyrchu ar gyfer asesu gallu cynhyrchiol tir amaethyddol a leolir yng Nghymru ac yn pennu'r swm sydd i'w ystyried yn incwm blynyddol net o bob uned o'r fath am y flwyddyn o 12 Medi 2013 i 11 Medi 2014 at ddibenion penodol yn Neddf Daliadau Amaethyddol 1986  (“Deddf 1986”). Mae'r Gorchymyn hwn yn dirymu Gorchymyn  Daliadau Amaethyddol (Unedau Cynhyrchu) (Cymru) 2012 (O.S. 2012/3022 (Cy.306)).

Mae'n ofynnol asesu gallu cynhyrchiol tir amaethyddol er mwyn penderfynu a yw'r tir dan sylw yn “uned fasnachol o dir amaethyddol” ai peidio at ddibenion y darpariaethau olynu yn Neddf 1986: gweler yn benodol adrannau 36(3) a 50(2). Ystyr “uned fasnachol o dir amaethyddol” yw uned o dir amaethyddol sydd, pan gaiff ei ffermio o dan reolaeth gymwys, yn gallu cynhyrchu incwm blynyddol net nad yw'n llai na chyfanred enillion blynyddol cyfartalog dau weithiwr amaethyddol gwrywaidd llawn amser sy'n 20 mlwydd oed neu drosodd (paragraff 3 o Atodlen 6 i Ddeddf 1986). Wrth benderfynu'r ffigur incwm blynyddol hwn, pa bryd bynnag y bydd math penodol o ddefnydd ffermio a grybwyllir yng ngholofn 1 o'r Atodlen yn berthnasol i'r asesiad o allu cynhyrchiol y tir dan sylw, mae erthygl 2 o'r Gorchymyn hwn yn darparu mai'r unedau cynhyrchu a'r incwm blynyddol net a bennir yng ngholofnau 2 a 3, yn eu trefn, fydd sail yr asesiad hwnnw.

Mae'r Gorchymyn hwn yn cynnwys ffigurau incwm blynyddol net ar gyfer tir a oedd, yn 2012, yn hectar cymwys at ddibenion Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 73/2009 (OJ Rhif L 30, 31.1.2009, t.16). Rhoddir ffigurau ar wahân yn yr Atodlen ar gyfer tir dan anfantais ddifrifol, tir dan anfantais a thir arall.

Ni pharatowyd asesiad effaith rheoleiddiol ar gyfer yr offeryn hwn oherwydd na ragwelir unrhyw effaith ar fusnes na'r sector preifat na'r sector gwirfoddol.

 

 

 


2014 Rhif 41 (Cy. 3)

landlord a thenant, CYMRU

Gorchymyn Daliadau Amaethyddol (Unedau Cynhyrchu) (Cymru) 2014

Gwnaed                                15 Ionawr 2014

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru       16 Ionawr 2014

Yn dod i rym                      14 Chwefror 2014

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd gan baragraff 4 o Atodlen 6 i Ddeddf Daliadau Amaethyddol 1986([1]) ac sydd bellach wedi eu breinio ynddynt hwy([2]), yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn.

Enwi, cychwyn, cymhwyso a dehongli

1.(1)(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Daliadau  Amaethyddol (Unedau Cynhyrchu) (Cymru) 2014, mae'n gymwys o ran Cymru, a daw i rym ar 14 Chwefror 2014.

(2) Yn y Gorchymyn hwn—

ystyr “ardal lai ffafriol” (“less favoured area”) yw tir dan anfantais neu dir dan anfantais ddifrifol;

mae i “hectar cymwys” yr un ystyr ag a roddir i “eligible hectare” yn Erthygl 34(2) o Reoliad y Cyngor 73/2009;

ystyr “mapiau dynodedig (“designated maps”) yw'r ddwy gyfrol o fapiau sydd wedi eu rhifo 1 a 2, y ddwy wedi eu marcio â “Volume of maps of less favoured farming areas in Wales” ac â rhif y gyfrol dyddiedig 20 Mai 1999, ac wedi eu llofnodi gan Ysgrifennydd Gwladol Cymru a'u hadneuo yn swyddfeydd Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ;

ystyr “Rheoliad y Cyngor 73/2009” (“Council Regulation 73/2009”) yw Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 73/2009 sy'n sefydlu rheolau cyffredin ar gyfer cynlluniau cymorth uniongyrchol i ffermwyr o dan y polisi amaethyddol cyffredin, ac yn sefydlu cynlluniau cymorth penodol i ffermwyr ac yn diwygio ac yn diddymu Rheoliadau penodol([3]);

ystyr “tir dan anfantais” (“disadvantaged land”) (ac eithrio yn yr ymadrodd “tir dan anfantais ddifrifol”) yw unrhyw ardal o dir sydd wedi ei lliwio'n las ar y mapiau dynodedig; ac

ystyr “tir dan anfantais ddifrifol” (“severely disadvantaged land”) yw'r ardal o dir sydd wedi ei lliwio'n binc ar y mapiau dynodedig.

Asesu gallu cynhyrchiol tir

2.(1)(1) Mae paragraffau (2) a (3) yn cael effaith at ddiben asesu gallu cynhyrchiol uned o dir amaethyddol a leolir yng Nghymru, er mwyn penderfynu a yw'r uned honno yn uned fasnachol o dir amaethyddol o fewn ystyr “commercial unit of agricultural land” ym mharagraff 3(1) o Atodlen 6 i Ddeddf Daliadau Amaethyddol 1986.

(2) Os gellir defnyddio'r tir dan sylw, pan ffermir ef dan reolaeth gymwys, i gynhyrchu unrhyw dda byw, cnwd âr fferm, cnwd garddwriaethol yn yr awyr agored, neu ffrwythau fel y crybwyllir yn unrhyw un o'r cofnodion 1 i 3 yng ngholofn 1 yn yr Atodlen i'r Gorchymyn hwn, yna—

(a)     yr uned gynhyrchu a ragnodir o ran y defnydd hwnnw o'r tir fydd yr uned yn y cofnod yng ngholofn 2 o'r Atodlen honno gyferbyn â'r cofnod hwnnw, a

(b)     y swm a bennir, ar gyfer y cyfnod o 12 mis sy'n dechrau ar 12 Medi 2013, yn incwm blynyddol net o'r uned gynhyrchu honno yn y cyfnod hwnnw fydd y swm yn y cofnod yng ngholofn 3 o'r Atodlen honno gyferbyn â'r cofnod hwnnw fel y'i darllenir ynghyd ag unrhyw nodyn perthnasol i'r Atodlen honno.

(3) Os yw tir sy'n gallu cynhyrchu incwm blynyddol net, pan ffermir ef dan reolaeth gymwys yn hectar cymwys yn 2012 (gweler cofnod 4 yng ngholofn 1), yna—

(a)     yr uned gynhyrchu a ragnodir o ran y defnydd hwnnw o'r tir fydd yr uned yn y cofnod yng ngholofn 2 o'r Atodlen honno gyferbyn â'r cofnod hwnnw, a

(b)     y swm a bennir, ar gyfer y cyfnod o 12 mis sy'n dechrau ar 12 Medi 2013, yn incwm blynyddol net o'r uned gynhyrchu honno yn y cyfnod hwnnw fydd y swm yn y cofnod yng ngholofn 3 yn yr Atodlen honno gyferbyn â'r cofnod hwnnw.

Dirymu

3. Mae Gorchymyn Daliadau Amaethyddol (Unedau Cynhyrchu) (Cymru) 2012([4]) wedi ei ddirymu.

 

 

Alun Davies

 

Y Gweinidog Adnoddau Naturiol a Bwyd, un o Weinidogion Cymru

 

15 Ionawr 2014

 

 


                                         YR ATODLEN                              Erthygl 2

UNEDAU CYNHYRCHU RHAGNODEDIG A PHENNU INCWM BLYNYDDOL NET

Colofn 1

Y Defnydd Ffermio

Colofn 2

Yr uned gynhyrchu

Colofn 3

Incwm blynyddol net o'r uned gynhyrchu (£)

1. Da byw

Buchod godro

buwch

530

 

Buchod bridio cig eidion:

ar dir mewn ardal lai ffafriol

buwch

-82

 

ar dir arall

buwch

-39

 

Gwartheg pesgi cig eidion  (lled-arddwys)

y pen

40(1)

 

Buchod llaeth i lenwi bylchau

y pen

102(2)

 

Mamogiaid:

ar dir mewn ardal lai ffafriol

mamog

-17

 

ar dir arall

mamog

-4

 

Ŵyn stôr (gan gynnwys ŵyn benyw a werthir fel hesbinod)

y pen

4.70

 

Moch:

hychod a banwesod torrog

hwch neu fanwes

220

 

moch porc

y pen

7.50

 

moch torri

y pen

10.40

 

moch bacwn

y pen

13.10

 

Dofednod:

ieir dodwy

aderyn

3.20

 

brwyliaid

aderyn

0.50

 

cywennod ar ddodwy

aderyn

0.30

 

Tyrcwn Nadolig

aderyn

4.70

 

2. Cnydau âr fferm

Haidd

hectar

127

 

Ffa

hectar

290

 

Rêp had olew

hectar

242

 

Pys sych

hectar

100

 

Tatws:

cynnar cyntaf

hectar

1700

 

prif gnwd (gan gynnwys hadyd)

hectar

3610

 

Betys siwgr

hectar

750

 

Gwenith

hectar

400

 

3. Cnydau garddwriaethol awyr agored a ffrwythau

Ffrwythau'r berllan

hectar

3100

 

Ffrwythau meddal

hectar

9780

 


 

4. Hectarau cymwys

Tir a oedd, yn 2012, yn hectar cymwys at ddibenion Rheoliad y Cyngor 73/2009

tir dan anfantais ddifrifol

hectar

 

82.01

 

tir dan anfantais

hectar

112.91

 

pob tir arall

hectar

82.07

 

(1) Dyma'r ffigur ar gyfer anifeiliaid y byddid yn eu cadw am 12 mis. Yn achos anifeiliaid a gedwir am lai na 12 mis rhaid gwneud addasiad pro rata o'r ffigur hwn.

(2) Dyma'r ffigur ar gyfer anifeiliaid (faint bynnag fo'u hoed) y byddid yn eu cadw am 12 mis. Yn achos anifeiliaid a gedwir am lai na 12 mis rhaid gwneud addasiad pro rata o'r ffigur hwn.


 



([1])           1986 p.5; mae adran 96(1) o'r Ddeddf honno yn diffinio “the Minister”.

([2])           Trosglwyddwyd swyddogaethau o dan Ddeddf Daliadau Amaethyddol 1986 (p.5) i Gynulliad Cenedlaethol  Cymru gan erthygl 2 o Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672) ac Atodlen 1 i'r Gorchymyn hwnnw. Mae'r swyddogaethau hynny yn arferadwy bellach gan Weinidogion Cymru yn rhinwedd adran 162 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32) a pharagraff 30 o Atodlen 11 iddi.

([3])           OJ Rhif L 30, 31.1.2009, t.16, a ddiwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad Gweithredu’r Comisiwn (EU) Rhif 929/2013 (OJ Rhif L 255, 27.9.2013, t.5).

([4])           O.S. 2012/3022 (Cy.306)